Eich lluniau chi: Goleuadau'r Gogledd i'w gweld yng Nghymru nos Lun

Llun Llion Griffiths o draeth Talacre, Sir y Fflint
Talacre

Roedd Goleuadau'r Gogledd i'w gweld dros nos yng Nghymru nos Lun.

Cafodd y goleuadau – a elwir hefyd yn Wawl y Gogledd neu Lewyrch yr Arth yn Gymraeg – eu gweld yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU dros nos.

Mae’r goleuadau, yr aurora borealis, yn digwydd pan fydd yr haul yn rhyddhau gronynnau wedi’u gwefru tuag at y Ddaear.

Wrth iddyn nhw gyrraedd magnetosffer y Ddaear, maen nhw’n weladwy ar ffurf llenni o oleuni.

Image
Goleuadau'r Gogledd
Goleuadau'r Gogledd dros Chwarel Penrhyn, Bethesda. Llun gan Gareth Jones

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod “stormydd geomagnetig mawr” wedi’u cofnodi, gan gynhyrchu goleuadau “sy’n weladwy ledled y DU, gydag adroddiadau’n ymestyn cyn belled i’r de â gogledd yr Eidal”.

Efallai y bydd y goleuadau yn dal i fod yn weladwy mewn rhannau o’r Alban a Gogledd Iwerddon ddydd Mawrth, ychwanegodd.

Roedd y goleuadau’n amlwg iawn yng Nghymru ym mis Mawrth 2024, gan liwio’r awyr o ganlyniad i stormydd geomagnetig.

Image
Mwnt
Mwnt yng Ngheredigion gan Lisa Geraint Pritchard-Evans
Image
Goleuadau'r Gogledd
Goleuadau'r Gogledd dros Fethesda. Llun gan Gareth Jones
Image
Talacre, Sir y Fflint
Talacre, Sir y Fflint gan Charlotte McClelland Kite
Image
Aberdaron
Aberdaron, Gwynedd gan Kim Williams
Image
Awyr drawiadol dros Y Felinheli gan Siân Williams
Awyr drawiadol dros y Felinheli gan Siân Williams

Oes gyda chi luniau o Oleuadau'r Gogledd? Rhannwch nhw gyda nbi ar ein tudalen Facebook neu ar newyddion@s4c.cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.