Undeb Ewropeaidd i gasglu €140 biliwn drwy gynyddu trethi cwmnïau ynni
Mae'r Undeb Ewropeaidd yn mynd i gyflwyno cap ar elw cwmnïau ynni wrth i brisiau barhau i godi.
Gobaith yr undeb wleidyddol o wledydd yw y bydd y cap yn codi mwy na €140 biliwn.
Mae'r blaid Lafur wedi galw am ymestyn y dreth ychwanegol dros-dro ar gwmnïau yn y Deyrnas Unedig, ond mae'r Prif Weinidog Liz Truss wedi gwrthod y galwadau hyd yma.
Mae Ms Truss wedi cyhoeddi nad yw hi'n gefnogol o drethi ychwanegol mewn cyfnodau o elw uchel mewn cyfnod lle mae hi'n galw am "dyfu'r economi".
Mae Ursula von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd hefyd wedi cadarnhau y byddan nhw'n diwygio'r farchnad electrig yn yr undeb.
Fe gyhuddodd Ms von der Leyen rhai cwmnïau o wneud elw yn wyneb y rhyfel parhaus yn Wcráin a'r sancsiynau economaidd yn erbyn Rwsia o ganlyniad.
"Dyma pam rydym yn cynnig cap ar elw cwmnïau sy'n creu electrig ar gostau isel," meddai.
"Yn yr amseroedd hyn, mae hi'n anghywir i dderbyn refeniw ac elw uwch nag erioed, gan fuddio o ryfel ac ar gefn ein cwsmeriaid."