Newyddion S4C

Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd

14/09/2022
Cymru

Mae Rob Page wedi cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer eu gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Dyma'r tro cyntaf i Page gyhoeddi ei garfan ers iddo gael ei benodi'n rheolwr llawn amser Cymru ddydd Mawrth.

Mae Brennan Johnson wedi cael ei gynnwys yn y garfan unwaith yn eto, ar ôl cael dechreuad da i'r tymor gyda Nottingham Forest yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac fe sgoriodd i Gymru yn erbyn Gwlad Belg a'r Iseldiroedd ym mis Mehefin.

Bydd disgwyl i Joe Rodon fod yn ganolbwynt i'r amddiffyn yn y gemau olaf. Mae o bellach ar fenthyg i Stade Rennais yn Ffrainc ac wedi dechrau pob gêm heblaw am un.

Mae Luke Harris, yr ymosodwr 17 oed Fulham, wedi ei enwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf.

Ni fydd Aaron Ramsey yn cael ei gynnwys yn y garfan wedi iddo ddioddef anaf tra'n chwarae i'w glwb Nice. Mae hyn yn bryder i gefnogwyr Y Wal Goch, gyda deufis yn unig tan bencampwriaeth Cwpan y Byd 

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel ar 22 Medi, cyn herio Gwlad Pwyl yn eu gêm olaf yn y grŵp ar 25 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Nid yw Cymru wedi ennill yr un o'u gemau yn y Gynghrair, ac mae ganddynt un pwynt yn unig wedi'r gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mehefin.

Mae'n debygol y bydd Cymru yn disgyn i Gynghrair B, oni bai y bydd modd iddynt ennill un o'u dwy gêm olaf a bod Gwlad Pwyl yn colli eu dwy gêm.

Y garfan yn llawn:  Wayne Hennessey, Danny Ward, Tom King, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Davies, Ben Cabango, Joe Rodon, Chris Mepham, Ethan Ampadu, Chris Gunter, Connor Roberts, Sorba Thomas, Joe Allen, Joe Morrell, Dylan Levitt, Rubin Colwill, Jonny Williams, Wes Burns, Matthew Smith, Dan James, Kieffer Moore, Mark Harris, Luke Harris, Gareth Bale, Brennan Johnson, Rabbi Matondo, Tyler Roberts.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.