Arwisgiad Tywysog Cymru yn 'benderfyniad y dylid ei wneud yng Nghymru'

Mae arwisgiad Tywysog Cymru yn "benderfyniad y dylid ei wneud yng Nghymru", yn ôl arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Daw ei sylwadau wedi i ddeiseb yn gwrthwynebu cyhoeddiad y Brenin Charles mai y Tywysog William fyddai Tywysog newydd Cymru, gael ei harwyddo gan dros 20,000 o bobl.
Ddydd Gwener diwethaf, dywedodd Adam Price er y byddai yna “amser” ar gyfer dadl gyhoeddus am y teitl, bod meddyliau Plaid Cymru ar y pryd “gyda’r Teulu Brenhinol yn eu galar."
Wrth siarad ar orsaf BBC Radio Cymru ddydd Mawrth, dywedodd fod trafodaethau yn y cyfryngau am leoliad yr arwisgiad "wedi mynd yn rhy bell."
"Dwi'n meddwl fod hyn yn benderfyniad y dylem ni yng Nghymru ei wneud mewn amser pan rydym yn byw mewn Cymru fodern a democrataidd - mae'n benderfyniad y dylem ni ei wneud yma cyn i unrhyw gyhoeddiad gael ei wneud."
Darllenwch fwy yma.