Cynllun incwm sylfaenol i artistiaid Iwerddon yn dangos 'ffydd' yn y celfyddydau

Mae cerddorion ac artistiaid yn Iwerddon yn dweud bod cynllun peilot Incwm Sylfaenol newydd llywodraeth y wlad yn dangos "ffydd" yn y celfyddydau.
Fe wnaeth Adran Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon lansio cynllun peilot incwm sylfaenol gwerth €105m ar gyfer artistiaid wythnos ddiwethaf er mwyn hybu adferiad y sector yn sgil y pandemig.
Fe fydd 2,000 o artistiaid ar draws Iwerddon yn derbyn €325 yr wythnos am y tair blynedd nesaf.
Dywedodd sawl artist wrth The Irish Times fod y cynllun yn gam ymlaen i'r sector celfyddydau yn Iwerddon, ac yn gobeithio y bydd y cynllun yn cael ei ehangu a'i wneud yn un parhaol.
Darllenwch fwy yma.