Wcráin wedi 'adennill 6,000 km sgwâr o dir' medd Zelensky

Wcráin wedi 'adennill 6,000 km sgwâr o dir' medd Zelensky
Mae Wcráin wedi adennill 6,000 km sgwâr o dir y wlad, yn ôl yr Arlywydd Zelensky.
Ychwanegodd eu bod wedi ennill 3,000 km sgwâr yn y chwe diwrnod diwethaf yn unig, wrth i'r arlywydd ddatgan bod "cynnydd eu lluoedd" yn parhau.
"Ers dechrau mis Medi, mae ein milwyr wedi adennill mwy na 6,000 km sgwâr o diriogaeth Wcráin yn y de a'r dwyrain," meddai Zelensky yn ei anerchiad nosweithiol.
Mae Rwsia wedi colli dinasoedd allweddol yn rhanbarth gogledd-ddwyreiniol Kharkiv. Yn ôl yr awdurdodau, mae pŵer a dŵr wedi dychwelyd i 80% o boblogaeth y rhanbarth yn dilyn ymosodiadau gan Rwsia ar adeiladau yno.
Mae lluoedd Rwsia wedi gadael rhanbarthau yn gyflym, gan adael cyflenwadau o fwledi a chyfarpar milwrol ar eu hôl.
Er hyn, dywedodd llefarydd ar ran y Kremlin, Dmitry Peskov, y byddai "gweithredoedd milwrol yn Wcráin yn parhau hyd nes y bydd yr holl dasgau a osodwyd yn wreiddiol” wedi’u cyflawni.