Newyddion S4C

Ailddechrau digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru

pel droed

Fe fydd gemau rygbi a phêl-droed yn ail-ddechrau yng Nghymru'r wythnos hon. 

Yn sgil marwolaeth y Frenhines, penderfynodd penaethiaid rhai campau i ohirio digwyddiadau chwaraeon dros y penwythnos, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ac Undeb Rygbi Cymru (URC). 

Bellach mae'r CBDC wedi cyhoeddi y bydd gemau pêl-droed yn medru ail-ddechrau o ddydd Mawrth tra bod URC wedi cadarnhau y bydd gemau rygbi yn gallu ail-ddechrau o ddydd Llun ymlaen. 

Mae URC wedi gofyn i dimau ail-drefnu unrhyw gemau oedd i fod i'w chwarae ar ddiwrnod angladd y Frenhines, sef 19 Medi. 

Dywedodd CBDC y byddai gwybodaeth ar gyfer gemau sydd i fod i gael eu chwarae ar ddiwrnod angladd y Frenhines, yn cael ei chyhoeddi maes o law. 

Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr hefyd wedi cyhoeddi y bydd gemau yn ail-ddechrau o ddydd Mawrth ymlaen. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.