Olivia Pratt-Korbel: Rhyddhau dau ddyn arall
Mae Heddlu Glannau Mersi wedi rhyddhau dau ddyn arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel yn Lerpwl.
Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei chartref yn y ddinas wedi i ddyn redeg i mewn i'w chartref tra'n rhedeg ar ôl dyn arall ar 22 Awst.
Cafodd mam y ferch naw oed, Cheryl Korbel, a dyn arall hefyd eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Roedd y ddau ddyn, 18 a 37 oed, wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr.
Fe gafodd dyn 34 oed ei arestio wythnos yn ôl ar amheuaeth o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Cafodd tri dyn arall, sydd yn 41, 34 a 29 oed, hefyd eu harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr.
Mae'r chwech dyn bellach wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth amodol.