Newyddion S4C

Elin Jones: 'Nid nawr yw'r amser' i drafod arwisgiad tywysog newydd Cymru

Newyddion S4C 11/09/2022

Elin Jones: 'Nid nawr yw'r amser' i drafod arwisgiad tywysog newydd Cymru

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi dweud mai "nid nawr yw'r amser" i drafod arwisgiad tywysog newydd Cymru. 

Yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth, fe wnaeth y Brenin Charles gyhoeddi y bydd y Tywysog William yn etifeddu'r teitl o Dywysog Cymru. 

Mae'r penderfyniad wedi hollti barn yng Nghymru ac mae deiseb yn galw i "ddod â'r teitl 'Tywysog Cymru' i ben allan o barch i Gymru" wedi derbyn miloedd o enwau. 

Er hyn, dywedodd Elin Jones wrth Newyddion S4C y bydd rhaid aros tan ar ôl y cyfnod swyddogol o alaru i drafod y mater o arwisgo Tywysog newydd Cymru. 

"O’n i ddim yn disgwyl y cyhoeddiad ar y pwynt yna, o’n i ddim yn ymwybodol bod y cyhoeddiad yn mynd i gael ei 'neud, clywed ar y radio fel pawb arall nes i," meddai.

"Mae’r rôl ei hun ddim yn un gyfansoddiadol, a dos na ddim o reidrwydd angen cyfansoddiadol i gael unrhyw arwisgo chwaith.

"Gewn ni weld, nid yn ystod y deg diwrnod yma o alaru am y Frenhines yw’r cyfnod i rywun fel fi gyfrannu at y sgwrs yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.