Teyrngedau i’r ddarlledwraig Mavis Nicholson sydd wedi marw yn 91 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r ddarlledwraig o Gymru Mavis Nicholson sydd wedi marw yn 91 oed.
Yn enedigol o Lansawel ger Castell-nedd roedd yn newyddiadurwraig adnabyddus ac roedd wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu i wahanol sianeli.
Yn ystod ei gyrfa roedd wedi cyflwyno rhaglenni teledu Afternoon Plus a Mavis on Four ac wedi cyfweld â nifer o enwogion gan gynnwys Elizabeth Taylor, David Bowie, Kenneth Williams, Kenny Everett, Peter Cook a Dudley Moore.
Roedd hefyd wedi cyflwyno’r rhaglen radio Women’s Hour ar y BBC ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau.
Cafodd ei henwi ymhlith y cant o fenywod sydd wedi gwneud cyfraniadau nodedig i Gymru ac yn 2018 fe enillodd wobr BAFTA Cymru am Gyfraniad Rhagorol i Ddarlledu.
Dywedodd y newyddiadurwr Robert Peston: “Roedd Mavis Nicholson yn ddarlledwr gwych ac arloesol.”
Dywedodd yr hanesydd a'r cyn-wleidydd Gyles Brandreth: “Roedd Mavis yn berson hyfryd – doeth, cynnes a hael.”
Dywedodd Golygydd BBC Radio Wales Carolyn Hitt: “Roedd hi’n arloesydd darlledu gwirioneddol, y cyfwelydd gorau erioed ac yn berson hyfryd, yn llawn cynhesrwydd a ffraethineb.”
Llun: 100+ Menywod Cymru