Arestio dyn ar ôl i ddwy ddynes gael eu taro gan gar yn Sir Ddinbych
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddwy ddynes gael eu taro gan gar yn Sir Ddinbych.
Cafodd y ddwy eu cludo i’r ysbyty wedi iddyn nhw ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad ym Mhrestatyn.
Fe wnaeth gyrrwr Mercedes C Class daro’r menywod ar Ffordd Yr Orsaf ger Ffordd Bastion am tua 18.30 nos Iau.
Mae dyn 39 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.
Mae’n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n apelio am lygad dystion neu unrhyw un all fod o gymorth gyda’u hymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Tim Evans o dîm arbenigol gwrthdrawiadau’r ffordd y gallai gwybodaeth gan bobl a welodd y gwrthdrawiad fod yn “hynod o bwysig.”
“Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â delweddau CCTV, dash-cam neu ddelweddau o gloch drws… i gysylltu ar unwaith.”
Dywedodd y dylai pobl gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod O003881.
