Tân Y Swistir: Cyd-berchennog bar yn cael ei gadw yn y ddalfa
Mae cyd-berchennog bar yn Y Swistir ble fu farw 40 o bobl yn dilyn tân yno ar Nos Galan wedi ei gadw yn y ddalfa.
Mae'r penderfyniad i'w gadw yn y ddalfa yn dod ar ôl i erlynwyr ddweud fod peryg y byddai Jacques Moretti, sy'n ddinesydd Ffrengig, yn ffoi.
Bu farw 40 o bobl yn dilyn tân ym mar Le Constellation yn ardal Crans-Montana, gyda 119 o bobl eraill wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad.
Roedd merch oedd gyda dinasyddiaeth Brydeinig ymhlith y rheiny sydd wedi eu henwi fel rhai a gollodd eu bywydau yn y tân.
Roedd nifer ohonynt hefyd yn bobl ifanc, gyda 15 o’r rhai fu farw dan 18 oed.
Y gred yw mai gwreichionen (‘sparkler’) oedd yn cael ei gludo ar ben poteli o ddiod oedd achos y tân.
Nid oedd y broses o wirio diogelwch bar Le Constellation wedi digwydd ers pum mlynedd.
Mae Mr Moretti a’i wraig, a chyd-berchnogion y bar eisoes wedi cael eu datgan fel rhai sydd yn destun i ymchwiliad troseddol.
Cafodd y pâr eu cwestiynu fel rhan o’r ymchwiliad ddydd Gwener, gyda'r ddau yn cael eu hamau o ddynladdiad drwy esgeulustod, achosi niwed corfforol drwy esgeulustod a llosgi bwriadol drwy esgeulustod, meddai swyddfa’r erlynwyr yn Valais yn Y Swistir.
Dywedodd y perchnogion eu bod nhw’n barod i gyd-weithio’n llawn gyda’r awdurdodau.
Llun Jacques a Jessica Moretti gan Reuters
