Darlithydd o Gaerdydd yn galw ar Elon Musk i fynd i’r afael â ‘deepfakes’ AI ar X

ITV Cymru
Dr Daisy Dixon

Mae darlithydd o Brifysgol Caerdydd wedi galw ar berchennog cyfrwng X, Elon Musk, i fynd i’r afael â delweddau ‘deepfake’ AI ar y cyfrwng.

Daw'r alwad wrth i lefarydd ar ran y Prif Weinidog Keir Starmer hefyd alw ar Elon Musk i weithredu ar frys i atal y broblem.

Mae cyfrwng X yn cynnwys teclyn AI, Grok, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr greu lluniau o bobl.

Mae rhai defnyddwyr y cyfrwng wedi ei ddefnyddio i greu delweddau hanner noeth o ddieithriaid, gan gynnwys plant.

Un o’r rheini sydd wedi dioddef yr un driniaeth yw Dr Daisy Dixon, darlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd llun ohoni ei hun yn y gampfa (uchod) ei fwydo i mewn i declyn Grok heb ei chaniatâd.

'Trosedd ddigidol'

Dywedodd Dr Dixon fod gweld dieithriaid yn creu delweddau amhriodol o’i lluniau yn teimlo fel “trosedd ddigidol”.

“Mae wedi effeithio ar y ffordd rwy’n edrych ar fy nghorff,” meddai. “Dwi’n teimlo bod angen cuddio fy hun nawr.

“Dwi hefyd yn poeni am bwy fydd yn derbyn y lluniau yma.”

Dywedodd ei bod yn teimlo bod menywod yn benodol yn cael eu targedu er mwyn eu bychanu yn gyhoeddus.

“Dyw hyn ddim yn ymwneud â defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd foesol yn unig,” meddai.

“Mae’n dangos bod casineb tuag at fenywod wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y peth. Mae’n broblem gymdeithasol.

“Mae angen addysgu bechgyn a dynion ifanc i fynd yn groes i’r manosffer.”

Mae elusen Cymorth i Ferched Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein er mwyn mynd i’r afael â chynnwys o’r fath.

“Mae goroeswyr y cam-drin hwn yn colli rheolaeth dros eu lluniau, sy’n cael eu defnyddio heb eu caniatâd,” meddai Stephanie Grimshaw, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu yr elusen.

Image
Elon Musk
Elon Musk. Llun gan PA / 
Kirsty Wigglesworth

Beirniadaeth

Mae cyfrwng X bellach wedi cyfyngu mynediad at y gallu i orchymyn Grok i greu delweddau o’r fath i ddefnyddwyr sy’n talu am wasanaeth ‘premiwm’ X.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod hynny yn ei wneud yn “sarhad” ar ddioddefwyr ac “nad yw’n ateb y broblem”.

“Yr hyn y mae’n ei brofi yw y gall X symud yn gyflym pan fydd am wneud hynny,” meddai.

“Fe glywsoch chi’r Prif Weinidog ddoe. Roedd yn gwbl glir bod angen i X weithredu, a bod angen iddo weithredu nawr, ac mae’n bryd i X fynd i’r afael â’r mater hwn.

“Pe bai gan gwmni cyfryngau arall fyrddau hysbysebu yng nghanol trefi yn dangos delweddau anghyfreithlon, byddai’n gweithredu ar unwaith i’w tynnu i lawr neu’n wynebu beirniadaeth y cyhoedd.”

Mae Ofcom wedi dweud eu bod nhw hefyd wedi cysylltu ag X ac yn ystyried cymryd camau yn erbyn y cwmni.

Mae X wedi dweud ei fod yn dileu cynnwys anghyfreithlon ac yn gwahardd cyfrifon sy'n ei greu yn barhaol.

Mewn ymateb i’r pryderon am gynnwys amhriodol o blant, dywedodd Grok ar X mai “digwyddiadau ynysig” oedd y rhain, a bod “mesurau diogelwch mewn lle” sy’n cael eu gwella’n barhaus er mwyn atal y cynnwys hwn yn gyfan gwbl.

Mae Mr Musk wedi mynnu yn y gorffennol y bydd “unrhyw un sy’n defnyddio Grok i greu cynnwys anghyfreithlon yn dioddef yr un canlyniadau ag y byddent pe baent wedi uwchlwytho cynnwys anghyfreithlon”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.