Elfyn Evans allan o Rali’r Acropolis yng ngwlad Groeg
11/09/2022
Mae’r Cymro Elfyn Evans allan o Rali’r Acropolis yng ngwlad Groeg.
Bu’n rhaid i Evans dynnu allan ar ôl i’w gar Toyota golli pŵer yn llwyr cyn cymal cyntaf diwrnod ola’r rali ddydd Sul.
Roedd Evans yn y pedwerydd safle ar y pryd, 7.1 eiliad tu ôl i Dani Sordo yn y trydydd safle.
Roedd Evans yn obeithiol o gyrraedd y podiwm ar ôl gyrru’n gystadleuol ar y cymalau ddydd Sadwrn.
Fe ddaeth Evans yn ail yn Rali Ypres yng Ngwlad Belg fis diwethaf i’w osod yn drydydd ym mhencampwriaeth y byd.
Mae’r canlyniad yma yng Ngroeg yn sicr o newid y sefyllfa hynny gyda thair rali yn weddill o’r tymor yn Seland Newydd, Catalwnia a Siapan.
Llun: Twitter/Elfyn Evans