Wcráin: Lluoedd Rwsia yn tynnu nôl o drefi allweddol

Mae lluoedd Rwsia wedi tynnu nôl o drefi allweddol yn nwyrain Wcráin yn ôl adroddiadau.
Dywedodd swyddogion Wcráin bod eu lluoedd wedi cipio tref Kupiansk a oedd yn ganolbwynt i gyflenwi lluoedd Rwsia.
Dywedodd Rwsia bod eu lluoedd wedi tynnu nôl o Izyum, sydd gerllaw, er mwyn “ail-ffurfio.”
Roedd gweinidogaeth amddiffyn Rwsia hefyd wedi cadarnhau fod eu lluoedd wedi tynnu nôl o Balakliya er mwyn cryfhau ymdrechion o amgylch Donetsk.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit