Cadarnhau dydd Llun, 19 Medi fel angladd y Frenhines Elizabeth II
Mae Palas Buckingham wedi cadarnhau fe fydd angladd y Frenhines Elizabeth II yn cael ei chynnal ar ddydd Llun, 19 Medi am 11.00 yn Abaty Westminster, Llundain.
Yn gynharach ddydd Sadwrn roedd Brenin Charles III wedi awdurdodi Gŵyl y Banc ar draws y DU ar ddiwrnod angladd ei fam, y Frenhines Elizabeth II.
Fe gadarnhaodd y brenin newydd y gorchymyn yn seremoni’r Proclamasiwn.
Fe fydd yr angladd yn cael ei chynnal ar ddiwedd y cyfnod o alaru swyddogol.
Cyn hynny, fe fydd Brenin Charles III yn ymweld â Chymru ddydd Gwener 16 Medi. Mae disgwyl iddo ef a’r Frenhines Gydweddog Camilla ymweld â Chadeirlan Llandâf a’r Senedd.
Fe fydd arch y Frenhines yn gorwedd yn Neuadd Westminster am bedwar diwrnod cyn yr angladd er mwyn i'r cyhoedd dalu teyrngedau iddi.
Dywedodd Arglwydd Lywydd y Cyngor Esgyniad, Penny Mordaunt, fod proclamasiwn yn nodi dydd angladd y Frenhines fel Gŵyl y Banc ar draws Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Fe wnaeth y Brenin Charles III arwyddo’r gorchymyn.