Gŵr yn y llys wedi ei gyhuddo o droseddau rhywiol yn erbyn cyn-wraig
Mae dyn wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o droseddau rhywiol yn erbyn ei gyn wraig.
Fe wnaeth Philip Young, 49 oed ymddangos yn Llys Ynadon Swindon ddydd Mawrth ar ôl iddo gael ei gyhuddo o 56 o droseddau.
Maen nhw'n cynnwys treisio a rhoi sylwedd gyda'r bwriad o wneud person yn gysglyd i'w gyn gymar, Joanne Young.
Mae Ms Young sydd yn 48 oed wedi penderfynu peidio aros yn ddi-enw.
Mae pump dyn arall hefyd wedi eu cyhuddo o droseddau rhywiol ac mae disgwyl iddynt ymddangos yn y llys yn ddiweddarach.
Y pump dyn yw Norman Macksoni, Dean Hamilton, Conner Sanderson Doyle, Richard Wilkins a Mohammed Hassan.
Dinesydd Prydeinig yw Phillip Young sydd yn byw yn Enfield.
Gwasanaethodd fel cynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Bwrdeistref Swindon rhwng 2007 a 2010.
Fe ddigwyddodd y troesddau honedig rhwng 2010 a 2023.
Wrth ymddangos o flaen y llys, dywedodd na fyddai yn pledio. Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Swindon ar Ionawr 23.
Llun: Jane Barlow/PA