Cynnydd mawr mewn cyhuddiadau troseddol am dagu yng Nghymru

Camdriniaeth

Mae cyhuddiadau troseddol am dagu a mogi wedi cynyddu’n gyflym yng Nghymru ers i'r weithred gael ei gwneud yn drosedd tair mlynedd yn ôl, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Cynyddodd nifer y cyhuddiadau yng Nghymru o 150 yn 2022–2023 i 737 yn 2024–25.

Roedd 215 eisoes wedi eu cyhuddo o’r drosedd yn chwarter cyntaf 2025–26 yn unig.

Mae naw o bob deg achos o dagu bwriadol yn ymwneud â thrais domestig, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae’r ffigyrau yn awgrymu “cynnydd parhaus” yn nifer y bobl sy’n cael eu cyhuddo o’r drosedd, medden nhw.

Ar draws Cymru a Lloegr cynyddodd y ffigyrau bron i chwe gwaith o 1,483 yn 2022–23 i 8,545 yn 2024–25. Roedd 2,656 cyhuddiad pellach yn chwarter cyntaf 2025–26.

Dywedodd Kate Brown, Prif Erlynydd y Goron ac arweinydd ar Gam-drin Domestig yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron bod "tagu yn ffurf frawychus o gam-drin a rheoli sy’n aml yn arwydd o drais cynyddol a risg eithafol i ddioddefwyr".

“Nid oes ffordd ddiogel o dagu rhywun – mae hynny’n fyth sy’n peryglu bywydau.

Ddim yn 'ddigwyddiadau ynysig'

“Rydym am i’r cyhoedd wybod: mae’r ymddygiad hwn yn anghyfreithlon, mae’n arwain at gofnodion troseddol, ac yn aml mae’n rhybudd am drais hyd yn oed yn fwy difrifol, gan gynnwys llofruddiaeth.

“Ers cyflwyno’r drosedd, rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod erlynwyr ar lawr gwlad wedi’u hyfforddi a’u cyfarparu i nodi’r achosion hyn a’u cyhuddo’n briodol.

“Mae’r cynnydd sydyn yn y cyhuddiadau hyn yn dangos bod ein herlynwyr yn defnyddio’r gyfraith fel y bwriadwyd – i ddwyn troseddwyr i gyfrif ac i amddiffyn dioddefwyr rhag niwed pellach.”

Cyflwynwyd y drosedd o dagu a mygu o dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 a daeth i rym ar 7 Mehefin 2022.
Yn flaenorol, roedd tagu yn aml yn arwain at gyhuddiadau fel ymosodiad cyffredin. Doedd hyn ddim bob tro yn adlewyrchu difrifoldeb y niwed na’r risg i ddioddefwyr.
Mae’n cario dedfryd uchaf o bum mlynedd o garchar, gan gydnabod y perygl eithafol a’r effaith seicolegol sy’n gysylltiedig â’r math hwn o gam-drin, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Dywedodd y Twrnai Cyffredinol Ellie Reeves AS mai anaml oedd tagu yn "ddigwyddiadau ynysig". 

"Yn aml, mae dioddefwyr yn destun cam-drin corfforol a seicolegol parhaus, gan achosi niwed hirdymor a dinistrio bywydau," meddai.

"Rhaid i hyn ddod i ben nawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.