Criwiau o Gymru ar y ffordd i Venezuela wedi i ddaeargrynfeydd ladd dros 1,400

Cymorth Venezuela
Cymorth Venezuela

Mae aelodau o ddau wasanaeth tân yng Nghymru wedi eu hanfon i Venezuela, wrth i'r cofnodion diweddaraf amcangyfrif bod mwy na 1,400 o bobl wedi marw yn sgil dau ddaeargryn a darodd y wlad ddydd Mercher. 

Roedd y daeargrynfeydd a oedd yn mesur 7.2 a 7.5 ymhlith y mwyaf nerthol yn Venezuela ers mwy na chanrif, gyda'r dirgryniadau i'w teimlo ar hyd a lled y wlad. 

Yn ôl yr awdurdodau'n lleol, mae mwy na 1430 o bobl wedi marw a 3,360 wedi eu hanafu, gyda phryderon y gallai'r cyfanswm fod llawer uwch.

Nos Wener, gadawodd tîm achub a chwilio sy'n ymateb i argyfyngau, ganolfan y llu awyr yn Brize Norton, Sir Rydychen, ar ôl cais gan y Swyddfa Dramor. 

Ymhlith y tîm o 68 aelod mae gweithwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Hefyd ar y daith, mae chwe chi a gweithwyr dyngarol. 

Dywedodd Cyngor y Penaethiaid Tân bod gan y diffoddwyr arbenigedd eithriadol.

 "Byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr â thimau lleol a rhyngwladol gan ddarparu cymorth yn y mannau y mae ei angen, gyda'r bwriad o achub bywydau mewn amodau hynod o heriol. 

"Mae'r nod yn glir, ac rwy'n gwybod y byddan nhw'n ymateb gyda gofal a thosturi," meddai'r cadeirydd Phil Garrigan. 

Mae'r Deyrnas Unedig hefyd wedi anfon tîm meddygol i Venezuela.

Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y bydd yn darparu £2 filiwn i'r wlad er mwyn i'r awdurdodau ymateb i'r argyfwng. 

Yn y cyfamser, cyhoeddodd y Swyddfa Dramor fod eu gweithwyr yn Llysgenhadaeth Prydain ym mhrifddinas Venezuela, Caracas i gyd yn ddiogel, wedi i'r adeilad gael ei ddifrodi yn y daeargrynfeydd.

Mae'r llysgenhadaeth ynghau, ac mae trefniadau eraill ar y gweill i gynorthwyo dinasyddion Prydeinig yn Venezuela. 

Y gred yw bod rhai cannoedd o Brydeinwyr yn byw yn Venezuela a does dim adroddiadau am unrhyw farwolaethau neu anafiadau yn eu plith.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.