Stad o argyfwng yn nhalaith Efrog Newydd oherwydd polio

Mae llywodraethwr Efrog Newydd yn yr UDA wedi datgan stad o argyfwng oherwydd ymlediad polio yn y dalaith.
Mae swyddogion iechyd wedi dweud fod samplau dŵr gwastraff o ddinas Efrog Newydd a phedwar o siroedd cyfagos wedi profi’n bositif am y feirws sy’n gallu achosi parlys.
Er mai dim ond un achos sydd wedi ei gadarnhau hyd yma, dyma’r achos cyntaf yn y wlad ers bron i ddegawd.
Yn ôl swyddogion mae cyfradd brechiadau yn rhy isel mewn rhannau o’r dalaith.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit