
Y Tywysog William yn Dywysog newydd ar Gymru
Y Tywysog William yn Dywysog newydd ar Gymru
Mae Brenin Charles III wedi datgan mai ei fab, y Tywysog William, fydd y Tywysog newydd ar Gymru.
Yn ei anerchiad cyntaf i'r genedl fel brenin, dywedodd y Brenin Charles y byddai William yn etifeddu'r teitl Tywysog Cymru yn ogystal â'r rôl Dug Cernyw, gyda ei wraig, Catherine, yn derbyn y teitl Tywysoges Cymru.
Dywedodd y Brenin ei fod yn falch o enwi ei fab, gan ddefnyddio'r teitl yn Gymraeg, yn "Dywysog Cymru, sef y wlad yr oedd hi'n gymaint o fraint i'w chynrychioli yn ystod cymaint o fy mywyd.
"Gyda Catherine wrth ei ymyl, dwi'n gwybod y bydd ein Tywysog a'n Tywysoges newydd ni ar Gymru yn parhau i ysbrydoli ac arwain ein sgyrsiau cenedlaethol, gan helpu i ddod â'r bobl ar y ffin i'r canol lle byddant yn gallu derbyn help angenrheidiol."
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, dywedodd Y Tywysog William: “Tra bod y byd wedi colli arweinydd, rydw i, fodd bynnag, wedi colli nain."
Wrth gyfeirio at farwolaeth y Frenhines Elizabeth II ychwanegodd: “Roeddwn yn gwybod y byddai’r diwrnod yma yn dod, ond fe fydd tipyn o amser cyn i realiti bywyd heb Nain deimlo’n real. Fe fyddaf yn ei hanrhydeddu trwy gefnogi fy nhad, y Brenin, mewn unrhyw ffordd fedrai.”

Fe wnaeth y Brenin newydd roi teyrnged i'w "annwyl briod, Camilla" gan gadarnhau y byddai'n derbyn y teitl Brenhines Gydweddog.

Fe wnaeth hefyd gyfeirio at Dug a Duges Sussex, gan "ddatgan ei gariad at Harry a Meghan wrth iddyn nhw barhau i adeiladu eu bywydau dramor."
Mewn teyrnged i'w fam, dywedodd y Brenin o Balas Buckingham ei fod yn teimlo "teimladau o dristwch" i'w "fam arbennig" a oedd yn "ysbrydoliaeth ac yn esiampl i mi a fy nheulu i gyd."
Ychwanegodd fod ei fam wedi "aberthu yn sgil ei dyletswyddfau" fel Brenhines.
Gorffenodd ei anerchiad drwy gyfeirio at ei ddiweddar fam, Ei Mawrhydi Elizabeth II.
"Wrth i chi ddechrau eich taith arbennig olaf i ymuno â'm diweddar Papa, rydw i eisiau dweud hyn: diolch.
"Diolch am eich cariad a'ch ymroddiad i'n teulu ni ac i deulu y cenhedloedd rydych chi wedi eu cynrychioli mor ddiwyd dros y blynyddoedd."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn "edrych ymlaen at ddyfnhau ein perthynas â'r Tywysog a'r Dywysoges newydd."
Mae cyfeillgarwch y Brenin Charles III â Chymru yn un hirhoedlog.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) September 9, 2022
Heddiw, un o'i weithredoedd cyntaf fel brenin oedd rhoi'r teitl Tywysog Cymru i'w fab hynaf, William.
Edrychwn ymlaen at ddyfnhau ein perthynas â'r Tywysog a'r Dywysoges newydd.