Dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw yng Nghlydach
09/09/2022
Mae dyn 55 oed wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth wedi i fenyw cael ei darganfod yn farw ym mhentref Clydach yn Sir Abertawe.
Cafodd Wendy Buckney, 71, ei darganfod mewn eiddo ar Heol Tanycoed yn y pentref ar 23 Awst.
Mae Brian Whitelock, o Glydach, bellach wedi'i gyhuddo o'i llofruddiaeth.
Wrth roi teyrnged i Wendy Buckeny, dywedodd ei theulu eu bod "wedi eu rhwygo ac fe welwn ni ei heisiau hi am byth.
"Fel teulu rydym wedi'n llorio fod ein chwaer, modryb a ffrind cariadus wedi ei chymryd mewn ffordd mor drasig."
Mae Brian Whitelock wedi ei gadw yn y ddalfa.