'Dim ffracio i Gymru' medd Mark Drakeford
'Ni fydd Cymru yn dilyn Lloegr drwy ganiatáu ffracio nwy siâl', yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Daw hyn wedi i Brif Weinidog y DU, Liz Truss, gyhoeddi y byddai ffracio nwy siâl yn ail-ddechrau yn Lloegr.
Wrth siarad yng Nghaerdydd ddydd Iau, pwysleisiodd Mark Drakeford na fyddai Cymru yn codi'r gwaharddiad.
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar egni adnewyddadwy.
"Ffordd i greu sicrwydd egni yn y dyfodol ydi buddsoddi mewn egni adnewyddadwy, ac mae gan Gymru gymaint ohono, ac o'r herwydd byddwn yn creu cyflenwad egn dibynadwy a fforddiadwy, ond hefyd yn gwneud cyfraniad, yn hytrach na mynd yn groes, i'r argyfwng hinsawdd," meddai.
Daw hyn wedi i Liz Truss gyhoeddi cynlluniau i gapio biliau ynni cyfartalog cartrefi ar £2,500 y flwyddyn o fis Hydref ymlaen yn sgil yr argyfwng costau byw.