Cyswllt agos y Frenhines Elizabeth II gyda chymuned Aberfan
Cyswllt agos y Frenhines Elizabeth II gyda chymuned Aberfan
Dros y blynyddoedd fe wnaeth y Frenhines Elizabeth II greu cysylltiadau agos â chymuned Aberfan, yn dilyn y trychineb adawodd gymaint o graith ar yr ardal yn ystod 60au'r ganrif ddiwethaf.
Ar 21 Hydref 1966 fe gafodd Cymru a'r byd eu syfrdanu gan y trychineb yn y pentref glofaol - trychineb oedd yn gyfrifol farwolaeth 116 o blant a 28 o oedolion wedi i wastraff glo lifo dros yr ysgol gynradd yn y pentref.
Wyth niwrnod yn ddiweddarach, fe aeth y Frenhines a Dug Caeredin i'r pentref.
Fe fu'r ddau yn cwrdd â thrigolion lleol oedd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr hyn ddigwyddodd, ac fe gawson nhw gyfle hefyd i siarad â gweithwyr fu'n cynorthwyo yn yr ymdrech achub.
Roedd 'na beth beirniadaeth ar y pryd nad oedd y Frenhines wedi mynd i Aberfan ynghynt ac roedd rhai yn teimlo y dylai hi fod wedi ymweld â'r pentref yn syth ar ôl i'r trychineb ddigwydd.
Chwe blynedd yn ddiweddarach ddaeth ymweliad nesa'r Frenhines ag Aberfan ym 1973, pan gafodd gyfle i agor y ganolfan gymunedol gafodd ei hadeiladu ger safle Ysgol Pantglas.
Fe ddychwelodd i'r pentref ar ddau achlysur arall, ym 1997 pan blannodd hi goeden yn yr ardd goffa sydd ar safle'r ysgol ac yn ystod ei thaith i nodi'r Jiwbilî Ddiemwnt yn 2012.
Bryd hynny fe agorodd adeilad newydd Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn swyddogol.
Wrth i'r pentref nodi hanner canmlwyddiant y trychineb yn 2016, y Tywysog Charles oedd cynrychiolydd y teulu brenhinol yn y seremoni goffa ac fe ddarllenodd neges gan y Frenhines i drigolion Aberfan.
Yn ôl cyfrol gafodd ei chyhoeddi i gyd-fynd a'r Jiwbilî Aur yn 2002, roedd cyn ysgrifennydd preifat y Frenhines, yr Arglwydd Charteris, wedi dweud mai'r prif beth roedd y Frenhines yn ei ddifaru o'i chyfnod ar yr orsedd oedd peidio mynd i Aberfan ynghynt.