Lluoedd Wcráin yn bygwth cyflenwadau byddin Rwsia wrth adennill tir

Mae lluoedd Wcráin yn bygwth llwybrau cyflenwi byddin Rwsia ar ôl gwrthymosod ac ail-ennill tir dros y dyddiau diwethaf, yn ôl asiantaeth newyddion Reuters.
Dywedodd Arlywydd Zelensky fod byddin ei wlad wedi hawlio 1,000 km sgwâr o dir yn ôl o afael lluoedd Rwsia yn yr ymgyrch ddiweddaraf yn nwyrain y wlad.
Yn ôl adroddiadau fe allai milwyr Wcráin reoli rheilffordd hanfodol sydd yn ganolog i gyflenwadau Rwsia yn y dwyrain.
Hyd yma nid yw'r Kremlin wedi ymateb i'r datblygiadau diweddaraf.
Darllenwch ragor yma.