Gohirio gemau ym myd y campau dros y penwythnos
Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon wedi'u gohirio dros y penwythnos yn sgil marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.
Cyhoeddodd y Teulu Brenhinol fod Ei Mawrhydi Eliazbeth II wedi marw brynhawn dydd Iau.
Yn dilyn yn newyddion, fe wnaeth nifer o awdurdodau chwaraeon benderfynu gohirio gemau dros y dyddiau nesaf.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod gemau clybiau Cymru yn y cynghreiriau Cymreig wedi eu gohirio y penwythnos hwn.
Mae Uwch Gynghrair Lloegr wedi cadarnhau y bydd gemau'n cael eu gohirio y penwythnos hwn hefyd, am mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr wedi gohirio eu gemau rhwng 9-10 Medi.
Fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth, mae’r gêm heno rhwng y Scarlets a’r Dreigiau ym Mharc y Scarlets wedi’i ganslo.
— Scarlets Rugby (@scarlets_rugby) September 9, 2022
Bydd cefnogwyr sydd wedi prynu tocyn yn derbyn ad-daliad llawn
➡️ https://t.co/1HIiSrAFbf pic.twitter.com/cfE6m830cz
Mae'r Gynghrair Genedlaethol hefyd wedi cyhoeddi y bydd gemau'r penwythnos yn cael eu gohirio fel arwydd o barch i'r Teulu Brenhinol.
Bellach mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd pob gêm ar gyfer oedolion yng Nghymru dros y penwythnos yn cael eu gohirio. Mae gan gemau plant a dan-18 ganiatâd i barhau, ond mae'r undeb wedi gofyn iddynt gynnal dau funud o dawelwch cyn y chwiban gyntaf.
Mae gêm brawf criced Lloegr yn erbyn De Affrica bellach wedi'i gohirio am ddiwrnod, mae cystadleuaeth seiclo Tour of Britain wedi'i chanslo yn gyfan gwbl, a chwarae wedi'i atal ar ddiwrnod cyntaf pencampwriaeth golff y PGA.
Mae rasio ceffylau ar draws y DU wedi ei ohirio ar 9-10 Medi hefyd.