Arestio dyn arall mewn cysyllitiad â llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel
Mae Heddlu Glannau Mersi wedi arestio dyn arall mewn cysylltiad â llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel yn Lerpwl.
Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei chartref yn y ddinas wedi i ddyn redeg i mewn i'w chartref tra'n rhedeg ar ôl dyn arall ar 22 Awst.
Cafodd mam y ferch naw oed, Cheryl Korbel, a dyn arall hefyd eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn 29 oed yn ardal Gorllewin Derby wedi'i arestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr.
Dyma'r pumed dyn i gael ei arestio yn gysylltiedig gyda'r achos.
Dros y penwythnos fe gafodd dyn 34 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Cafodd tri dyn arall, sydd yn 41, 34 a 29 oed, hefyd eu harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr.
Mae'r pedwar dyn bellach wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth amodol.