
Elizabeth II - Y teyrnasiad hiraf yn hanes y Teulu Brenhinol
Yn dilyn y cyhoeddiad am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn 96 oed, mae cyfnod unigryw yn hanes y Deyrnas Unedig wedi dirwyn i ben.
Ei theyrnasiad oedd yr hiraf yn hanes y Teulu Brenhinol, a hi hefyd oedd arweinydd benywaidd hiraf unrhyw wladwriaeth mewn hanes.
Cafodd ei geni yn Mayfair, Llundain ar 21 Ebrill 1926, yn blentyn cyntaf i Ddug a Duges Efrog - ddaeth yn Frenin Siôr VI a’r Frenhines Elizabeth yn ddiweddarach.

Derbyniodd ei haddysg adref gan ddechrau ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Priododd Philip, Dug Caeredin yn 1947, ac fe gafodd y ddau bedwar o blant - Charles Tywysog Cymru; Anne y Dywysoges Frenhinol; Tywysog Andrew - Dug Efrog, a Thywysog Edward, Iarll Wessex.
Etifeddodd Elizabeth II y frenhiniaeth yn dilyn marwolaeth ei thad ar 6 Chwefror, 1952.
Fe gafodd ei choroni mewn seremoni yn Abaty Westminster ar 2 Mehefin 1953.

Cafodd y Teulu Brenhinol ei siglo yn dilyn marwolaeth sydyn Diana, Tywysoges Cymru mewn gwrthdrawiad car ym Mharis yn 1997.
Fe gafodd y Frenhines ei hun ei beirniadu, gyda rhai'n dweud nad oedd hi'n arwain mewn cyfnod o alar.
Ond yna fe wnaeth ddarllediad byw, gyda sylw y byddai'r Frenhiniaeth yn addasu - sylw gafodd ei ategu yn ddiweddarach y flwyddyn honno yn nathliadau ei phriodas aur.
Roedd y Frenhines yn teithio i Gymru'n rheolaidd, gan gynnwys ar achlysuron arbennig i agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 ac adeilad newydd y Senedd yn 2006.
Bu farw Dug Caeredin yn 99 oed yn 2021, wedi 73 mlynedd o fod yn briod i’r frenhines.
Fe welodd nifer fawr o newidiadau yn ystod ei theyrnasiad - yn cynnwys nifer o wledydd fel De Affrica, Pacistan a Sri Lanka yn gadael y Gymanwlad.
Roedd yn Frenhines ar 16 o wledydd i gyd, ac roedd hi hefyd yn ben ar Gymanwlad o 54 o wledydd dros gyfnod ei theyrnasiad.
Cafodd dathliadau Jiwbilî Arian, Aur, Diemwnt a Phlatinwm eu cynnal i nodi ei theyrnasiad yn 1977, 2002 a 2012 a 2022.