
Dyn o Sir Gâr wedi cael chwech o blant gyda'i ferch ei hun
Mae adroddiad diogelu plant wedi datgelu bod dyn 62 oed oedd yn byw yn Sir Gaerfyrddin wedi cael chwech o blant gyda'i ferch ei hun yn dilyn perthynas losgach o fewn y teulu.
Fe ddaeth y gamdriniaeth i'r amlwg yn 2018 pan gwynodd merch arall y dyn ei bod hi wedi cael ei chamdrin gan ei thad.
Fe gwynodd tri aelod o'r teulu wrth Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi cael eu camdrin gan y dyn sydd yn cael ei adnabod fel Oedolyn Y, ers eu bod nhw yn eu harddegau.
Cafodd yr Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig ei baratoi ar ran Cysur, Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r achos wedi ei ddisgrifio fel un "cymhleth a thrasig."
Mae'r Bwrdd yn dweud y bydd pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad annibynnol yn cael eu cyflwyno.
Ym mis Hydref 2019, cafodd Oedolyn Y ei garcharu am 40 mlynedd am dreisio ei ddwy ferch a'i wyres dros gyfnod estynedig.

Mae'r adolygiad yn olrhain sut y gwnaeth ei ferch, Oedolyn A, symud i fyw gyda'i thad yn Lloegr pan oedd hi'n 12 oed.
Fe ddechreuodd ei chamdrin yn fuan wedyn, ac fe wnaeth hi feichiogi pan oedd hi'n 13 oed. Roedd hi'n meddwl ei bod hi mewn "perthynas gariadus a phositif" gydag e a doedd hi ddim yn barod ar y pryd i ddatgelu pwy oedd tad ei phlant.
Symud i Gymru
Fe symudodd y teulu i Gymru ym mis Awst 2015.
Fe ddaeth y teulu i gysylltiad y Gwasanaethau Plant ym mis Rhagfyr 2015, pan wnaeth wyres Oedolyn Y fygwth "niweidio ei hun gyda chyllell" yn y cartref ac roedd yna "anawsterau emosiynol yn y cartref." Fe alwyd yr heddlu ac fe gafodd ei chyfeirio at Wasanaethau Plant.
Ym mis Ionawr 2017 fe gysylltodd rhywun yn ddienw gyda'r NSPCC a honni bod Oedolyn A mewn "perthynas losgachol" gyda'i thad, Oedolyn Y, ac roedd ei phlant wedi eu geni yn sgil y berthynas honno.

Cafodd ymchwiliad ar y cyd ei gynnal gan Wasanaethau Plant a'r Heddlu, ond doedd yna ddim camau pellach. Roedd Oedolyn A yn gwadu'r honiadau ac roedd hi'n gwrthod caniatau i'r heddlu gynnal profion DNA ar ei phlant.
Ym mis Mawrth 2018 fe wnaeth merch arall i Oedolyn Y, sef Oedolyn D, honiadau ei fod e wedi ei chamdrin hi'n rhywiol. Fe wnaeth Oedolyn A a'i merch gyfaddef wedyn bod Oedolyn Y wedi eu camdrin nhw ers roedden nhw yn eu harddegau cynnar.
Arestio'r dyn
Ym mis Mehefin 2018 cafodd Oedolion A ac Y eu harestio gan Heddlu Dyfed Powys. Fe aeth chwech o blant Oedolyn A i ofal maeth.
Cafodd profion DNA eu gwneud ar blant Oedolyn A oedd yn profi mai Oedolyn Y oedd y tad. Roedd chwech o'r plant, arwahan i'r ieuengaf, yn blant iddo.
Mae'r adroddiad yn manylu ar sut y gwnaeth Oedolyn Y dwyllo ei ferch, Oedolyn A, i feddwl ei bod hi'n derbyn cyfarwyddiadau gan Gyfryngwr (Medium), ac roedd yn defnyddio'r dull yma i'w rheoli hi.
Cafodd profion seicolegol eu gwneud ar 4 o'r 6 o blant mewn ysbyty arbenigol. Roedd y profion yn dangos bod y plant wedi dioddef nifer o effeithiau :
- Anhwylder Straen Ol-Drawmatig.
- roedd y plant wedi profi niwed emosiynol a chamdriniaeth
- roedd y plant yn gwrthod siarad yn achlysurol
- roedd y plant yn dioddef o iselder a phryder am ymwahanu
- roedd mwy o risg y bydd rhywrai yn ceisio manteisio arnyn nhw yn rhywiol
- diffyg ffiniau rhywiol priodol
- diffyg aneglurdeb am eu rhieni
- symptomau oedd yn cydfynd gyda chamdriniaeth rywiol
'Gellid fod wedi atal camdriniaeth'
Mae'r adroddiad yn nodi : "Petasai mesurau mwy trwyadl i warchod plant yn eu lle yn Lloegr, pan feichiogodd Oedolyn A yn wreiddiol fel plentyn, ac yn ddiweddarach pan nad oedd yna gwestiynau am dad y plentyn, mae'n bosib y gellid fod wedi atal camdriniaeth pellach yn gynharach."
Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Cysur :"Mae hwn yn achos ble mae cam-drin wedi cael effaith hirsefydlog ar yr holl ddioddefwyr, ac mae’n ymwneud â cham-drin dros genedlaethau yng Nghymru a Lloegr.
"Mae gweithwyr proffesiynol yn dal i weithio i gynorthwyo’r dioddefwyr a byddant yn parhau i wneud hynny am beth amser i ddod wrth iddynt geisio datblygu dyfodol cadarnhaol.
"Roedd yr achos yn un cymhleth dros ben a ddaeth i’r amlwg, a diogelwyd y plant, dim ond oherwydd bod grŵp bach o weithwyr proffesiynol o asiantaethau gwahanol sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant wedi dangos cydweithrediad, dycnwch a gwydnwch, a gwelwyd y dystiolaeth o hyn yn yr Adolygiad Ymarfer Plant."