Newyddion S4C

Brechlyn malaria newydd i leihau marwolaethau

Sky News 08/09/2022
Brechlyn malaria

Gall brechlyn newydd yn erbyn malaria leihau marwolaethau i hyd at 70% erbyn 2030 yn ôl gwyddonwyr.

Mae hyn yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus yn Affrica sydd yn dangos bod y brechlyn R21/Matrix-M yn effeithiol wrth amddiffyn plant â malaria.

Mae mwy na 40 miliwn o blant yn byw gyda malaria yn Affrica, ac mae ystadegau’n dangos fod un plentyn o dan bump oed yn marw o’r haint bob 75 eiliad.

Fe ddangosodd cyfnod prawf y brechlyn newydd yn Burkina Faso yn fwy effeithiol mewn plant, gydag 80% o achosion malaria yn cael eu hatal wedi i blant dderbyn y brechlyn newydd.

Darllenwch fwy yma.

Llun: UK Department for International Development

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.