Newyddion S4C

Y Cymro a'i freuddwyd o gyrraedd yr NFL

14/09/2022

Y Cymro a'i freuddwyd o gyrraedd yr NFL

Ar ddechrau tymor newydd uwch gynghrair pêl-droed Americannaidd yr NFL, mae un Cymro'n  gweithio'n galed i wireddu breuddwyd o chwarae'r gamp honno ar y llwyfan mwyaf. 

Fel nifer fawr o fechgyn yng Nghymru, dechreuodd Evan Williams chwarae rygbi gan lwyddo i gyrraedd academi Caerdydd yn ei arddegau.

Cafodd ei freuddwyd o chwarae rygbi dros Gymru ei chwalu yn 16 oed, pan benderfynodd Caerdydd beidio â chynnig cytundeb iddo. 

Er gwaethaf y siom, aeth Evan i'r Unol Daleithiau ar ôl ennill ysgoloriaeth i chwarae rygbi gyda Phrifysgol Lindenwood yn Missouri. 

Mae bellach wedi graddio ac yn canolbwyntio ar freuddwyd newydd, wedi iddo ennill ysgoloriaeth i chwarae i Brifysgol Western Missouri. 

Image
Missouri Western
Bydd Evan yn rhan o'r Missouri Western Gryphons am y tymor nesaf (Llun: Missouri Western Football)

Nid chwarae i Gymru yn y Chwe Gwlad sydd yn ysbrydoli Evan bellach, ond cyrraedd yr NFL. 

"Dyna'r freuddwyd, a sgen i ddim cywilydd dweud hynny," meddai wrth Newyddion S4C. 

"Dwi'n gwybod dwi ddim yn agos i hynny 'to, mae'n mynd i fod yn daith hir cyn dwi'n gallu cystadlu.

"Beth sydd yn cadw fi fynd yw'r ffaith fy mod i'n gwybod fod gen i'r potensial." 

'Pam lai?'

Mae Evan yn hyderus yn ei allu i gyrraedd y brig, ond dywedodd ei bod wedi bod yn daith anodd hyd yn hyn. 

Er bod y peli yn debyg i beli rygbi, mae'r steil o gicio pêl-droed Americanaidd yn hollol wahanol i gymharu â rygbi, medd Evan. 

Mae hefyd wedi bod yn sialens feddyliol iddo, wrth i nifer o hyfforddwyr wrthod cynnig lle iddo. 

"O'dd 'na lot o ofyn o gwmpas, roedd yn rhaid i mi beidio rhoi'r gorau iddi oherwydd o'dd 'na ddeufis lle'r unig ateb ges i oedd na na na.

"Dwi di dod i’r arfer o redeg y sioe, ond gyda'r pêl-droed Americanaidd dwi newydd ddechrau, odd hi’n bach o ergyd i’r ego."

Image
Evan Williams
Yn ôl Evan, dyw'r daith i chwarae pêl-droed Americanaidd ddim wedi bod yn hawdd

Er gwaethaf yr heriau hyd yma, mae Evan yn ymdrechu i gadw agwedd bositif. 

"Mae’r potensial o be' dwi’n gallu g'neud gymaint yn fwy na beth all rygbi byth ei gynnig i mi," meddai. 

"O'dd rhaid i fi jyst meddwl 'Pam lai?' Mae hon yn siwrne o hwyl.

"Os dyw e ddim yn digwydd, be sydd gen i golli?"

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.