Newyddion S4C

Lluoedd Wcráin yn gwrthymosod mewn sawl rhan o'r wlad

CNN 07/09/2022
Wcrain

Mae lluoedd Wcráin wedi bod yn gwrthymosod yn erbyn byddin Rwsia a lluoedd sy'n deyrngar i'r Kremlin mewn sawl rhan o'r wlad dros yr 48 awr diwethaf.

Fe ddaeth yr ymosodiadau cyntaf yn ne'r wlad yn rhanbarth Kherson, ar ôl i arweinwyr Wcráin rybuddio y byddai ymgyrch filwrol yno'n debygol.

Yn ôl adroddiadau fe anfonwyd lluoedd Rwsia i wrthymosod y bygythiad. Ond mae ymosodiadau pellach byddin Wcráin ar lwybrau cyflenwi eu gelyn yn golygu fod perygl y gallai miloedd o filwyr Rwsia gael eu hamgylchynu a'u cefnau yn erbyn afon Dnipro.

Bellach mae gwrthymosodiad gan fyddin Wcráin wedi datblygu ar hyd maes y frwydr i'r gogledd yn rhanbarth Kharkiv hefyd, gyda lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn awgrymu fod eu lluoedd wedi hawlio tir yn chwim yn yr ardal ddydd Mercher.

Er bod y darlun yn aneglur, mae awgrym fod y gwrthymosodiad cyntaf yn Kherson yn fodd o orfodi byddin Rwsia i symud milwyr i'r de er mwyn gadael bylchau yn rhanbarth Kharkiv.

Mae CNN wedi bod yn siarad gyda Phrydeiniwr sydd yn brwydro gyda lluoedd Wcráin yn yr ymgyrch ddiweddaraf.

Darllenwch ragor yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.