Trump yn dweud bydd y llywodraeth yn 'lleihau' eu gweithgareddau yn Minnesota

Donald Trump

Mae'r Arlywydd Trump wedi dweud y bydd ei weinyddiaeth yn "lleihau" eu gweithgareddau yn Minnesota ar ôl i ddyn gael ei saethu'n farw yno gan swyddogion ffederal.

Mewn cyfweliad gyda Fox News ddydd Mawrth fe ddywedodd Donald Trump, "Ar ddiwedd y dydd roedd yr hyn ddigwyddodd yn ofnadwy. Y ddau beth yn ofnadwy."

Ddechrau Ionawr fe gafodd Renee Good ei saethu'n farw gan swyddog ffederal. Dros y penwythnos fe fuodd Alex Pretti hefyd farw ar ôl cael ei saethu gan swyddogion mewnfudo ffederal.

Wedi marwolaeth Pretti mae protestiadau wedi cael eu cynnal. Mae yna feirniadaeth lem hefyd wedi bod ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Wrth siarad gyda newyddiadurwyr nos Fawrth dywedodd Trump bod yr hyn ddigwyddodd i Pretti yn "ddigwyddiad anffodus iawn".

Ar ôl iddo gael ei saethu fe gyhuddodd Ysgrifennydd Diogelwch Cartref America, Kristi Noem Alex Pretti o fod yn "derfysgwr cartref". 

Mae Adran Diogelwch Cartref hefyd wedi dweud bod eu swyddogion wedi saethu Pretti er mwyn amddiffyn eu hunain am fod Pretti wedi gwrthsefyll sawl ymgais i'w ddi-arfogi.

Yn ôl Noem roedd gan Pretti ŵn yn ei law ond mae nifer o lygad dystion wedi dweud mai ffôn oedd ganddo yn ei law ac nid gŵn.

Mae awdurdodau lleol yn dweud bod y gŵn yn un cyfreithlon a bod y nyrs wedi ei saethu yn farw ar ôl i'r gŵn gael ei gymryd oddi wrtho.

Pan ofynnwyd i Trump os oedd o yn cytuno bod Pretti yn "derfysgwr cartref" fe ddywedodd nad oedd wedi clywed yr honiad hynny. Ond ychwanegodd: "Ddyle fo ddim fod wedi bod yn cario gŵn".

Mae adroddiad drafft gan Adran Diogelu Ffiniau a Thollau yn gwrth-ddweud yr hyn ddywedodd yr Adran Diogelwch Cartref. Mae'r ddogfen yn dweud bod dau o'u swyddogion wedi saethu at Pretti. Does dim sôn bod Pretti wedi mynd i nôl ei ŵn.

Ddydd Llun fe wnaeth pennaeth mewnfudo'r llywodraeth ffederal adael y dalaith. Mae tsar Ffiniau'r Tŷ Gwyn, Tom Homan, wedi cymryd ei le. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.