Gwahardd Tim Criced Dynion Prifysgol Caerdydd
Mae Tîm Criced Dynion Prifysgol Caerdydd wedi cael ei wahardd rhag chwarae am weddill y tymor yn dilyn ymchwiliad gan Undeb Myfyrwyr y brifysgol.
Mewn datganiad mae'r undeb yn dweud bod eu hymchwiliad wedi dangos "tystiolaeth glir bod gweithgarwch yn gysylltiedig â'r clwb wedi bod yn is na'r safonau disgwyliedig gan aelodau o'r Undeb Myfyrwyr".
"Roedd yr ymddygiad yma yn anghyson gydag ein Côd Ymddygiad, yn torri ein canllaw oedd wedi ei gyfathrebu yn gyson i Bwyllgor y Clwb o flaen llaw ac yn codi pryderon sylweddol ynglŷn â diogelwch myfyrwyr a'u llesiant," meddai.
Mae'r Undeb yn dweud bod nhw yn "erbyn unrhyw ymddygiad seremoni derbyn aelod" a bod "llesiant myfyrwyr" yn ganolog i'w penderfyniad.
Mae'r datganiad hefyd yn dweud na fydd aelodau o'r pwyllgor oedd yn gyfrifol am y clwb yn y cyfnod yn ystod y digwyddiad yn cael cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y gamp.
Hefyd maen nhw'n dweud y bydd yr aelodau o'r tîm oedd ddim yn gysylltiedig â'r digwyddiad yn cael bod yn rhan o unrhyw glwb Criced fydd yn cael ei weinyddu gan yr Undeb Myfyrwyr.
Mae'r Undeb yn dweud y byddan nhw yn ystyried unrhyw gais i sefydlu Clwb Criced arall yn y dyfodol. Bydd unrhyw gais yn gorfod wynebu "craffu cadarn" a bydd rhaid cydymffurfio a chanllawiau a rheolau'r Undeb.
Maen nhw'n dweud hefyd eu bod nhw wedi ysgrifennu at glybiau chwaraeon y brifysgol yn eu hatgoffa o'r safonau y disgwylir iddynt gadw.