Newyddion S4C

Chelsea yn diswyddo Thomas Tuchel ar ôl canlyniadau siomedig

07/09/2022
Thomas Tuchel

Mae clwb pêl-droed Chelsea wedi diswyddo eu hyfforddwr Thomas Tuchel ar ôl nifer o ganlyniadau siomedig.

Daw'r datblygiad wedi i Chelsea colli 1-0 yn erbyn Dinamo Zagreb yng Nghyngrair y Pencampwyr nos Fawrth.

Mae Tuchel wedi bod wrth y llyw ers Ionawr 2021 ac fe enillodd Gynghrair y Pencampwyr llynedd wrth guro Manchester City 1-0.

Dyw Chelsea ond wedi ennill dwy o'u chwe gêm yn y gynghrair y tymor hwn, ac mae'r clwb wedi derbyn beirniadaeth am eu perfformiadau gwael, yn bennaf wedi iddynt golli 3-0 yn erbyn Leeds.

Roedd Tuchel a Chelsea wedi gwario dros £270 miliwn yn y cyfnod trosglwyddo rhwng mis Gorffennaf a dechrau Medi, gan gynnwys gwario £70 miliwn ar brynu Wesley Fofana o Leicester.

Mae Chelsea eisoes wedi dechrau chwilio am hyfforddwr newydd, ac maen nhw wedi derbyn caniatâd gan Brighton i siarad gyda'u hyfforddwr, Graham Potter.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.