Jeremy Vaughan: 'Rhaid parchu a buddsoddi' mewn plismona lleol
"Mae'n rhaid cadw buddsoddiad mewn plismona lleol."
Dyna neges glir Prif Gwnstabl heddlu mwyaf Cymru wrth i'r Ysgrifennydd Cartref yn San Steffan Shabana Mahmood baratoi i ddiwygio heddlua yng Nghymru a Lloegr.
Ers 2020, Jeremy Vaughan yw Prif Gwnstabl Heddlu'r De.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd ei fod yn deall yr angen i ddiwygio plismona yng Nghymru a Lloegr, gan fod y model "wedi dechrau nôl yn y chwedegau" a bod y "byd a throseddwyr wedi newid" ers hynny.
Ond roedd ganddo neges glir i'r Ysgrifennydd Cartref bod yn "rhaid parchu a buddsoddi" mewn plismona lleol gan mai "dyna ydy'r uned bwysicaf o blismona ym Mhrydain, ac yn sicr yng Nghymru."
Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn amlinellu cynlluniau i ddiwygio'r heddlu brynhawn Llun, gydag adroddiadau y bydd nifer y lluoedd yn cael eu cwtogi, a chorff newydd y gwasanaeth heddlua cenedlaethol yn cael ei greu i ddelio â'r achosion mwyaf difrifol yng Nghymru a Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru, y Blaid Werdd yng Nghymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw am greu un llu dros Gymru gyfan wedi i'r un drefn gael ei chyflwyno yn yr Alban yn 2013.
Ond mae eraill, fel cyn-gomisiynydd Heddlu'r Gogledd, Arfon Jones, wedi mynegi gofid y gallai hynny arwain at ganolbwyntio adnoddau ar dde'r wlad a dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu datganoli heddlua ac mae BBC Cymru wedi gofyn i Reform UK beth yw eu polisi nhw.
Doedd Prif Gwnstabl Heddlu'r De ddim am gael ei dynnu i'r ddadl, gan ddweud bod creu un llu Cymreig yn "bosibilrwydd" ond bod "rhaid sbio ar y model" ac asesu beth fyddai'r model orau.
Doedd e chwaith ddim yn credu bod datganoli heddlua i Gymru "ar y bwrdd" ar hyn o bryd.
Er bod tipyn o sylw wedi ei roi i'r syniad o greu Gwasanaeth Heddlua Gwladol fyddai'n ymdebygu i'r FBI, mae Jeremy Vaughan yn pwysleisio y dylai arbenigedd gael ei gadw o fewn i Gymru petai canoli yn digwydd.
"Mae 'na gwestiwn i ofyn ledled Prydain: beth ddylai gael ei ddarparu ar ba lefel?
"Mae na rai pethau fyddai'n well gyda ni gael mewn un lle...i sicrhau bod ni'n neud y gorau ymysg plismona ledled Prydain, fel bod yr uned leol yn cryfhau.
"Dw'i heb weld y manylder eto....ond dwi'n rhagweld fydd 'na dal uned yn lleol [yn arbenigo mewn gwrth-derfysgaeth] yn dal i fod yng Nghymru, yn ne Cymru, yn y gogledd, ledled Cymru...mae hwn yn fater o ddod a gwrth-derfysgaeth i'r canol, efo'r National Crime Agency, efo pethau eraill...dw'i ddim yn gweld nhw'n colli adnoddau i'r canol," meddai.