Creu gêm i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc am ddiogelwch ar ffermydd
Mae gêm newydd i geisio codi ymwybyddiaeth pobl ifanc am ddiogelwch ar ffermydd Cymru wedi cael ei datblygu ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Nod yr Ystafell ddianc mewn bocs ydy rhoi hyfforddiant diogelwch fferm i blant a phobl ifanc mewn ffordd "ddiddorol ac effeithiol."
Mae'r gêm fwrdd wedi ei datblygu gan gwmni Jengyd ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru mewn cydweithrediad â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Fe fydd y gêm ar gael i bob Clwb Ffermwyr Ifanc sirol ledled Cymru.
Yn ôl ystadegau'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, cafodd 27 o bobl eu lladd ar ffermydd yn y Deyrnas Unedig yn 2023/24.
Amaethyddiaeth sydd â'r record waethaf o unrhyw ddiwydiant allweddol, gyda chyfradd anafiadau angheuol tua 21 gwaith yn uwch.
Ym mis Medi 2025, dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas y Contractwyr Amaethyddol (NAAC), Jill Hewitt, fod "blinder, diffyg gweithwyr a phwysau ariannol yn cynyddu'r risg i ffermwyr."
Mae damweiniau yn ymwneud â cherbydau a chwympiadau yn gyffredin ym myd amaeth. Yr achosion mwyaf cyffredin o anafiadau angheuol yw cerbydau sydd yn symud, gwartheg, a syrthio yn ôl Cyswllt Ffermio.
'Hwyliog'
Cwmni o Geredigion yw Jengyd, ac Elan Davies, a'i gŵr, Iwan, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu'r gêm.
Dywedodd Elan Davies mai'r nod oedd rhoi negeseuon am ddiogelwch ar y fferm "mewn ffordd hwyliog ac ysgafn."
"Yr oedran yma yw dyfodol ein ffermydd felly os gallwn ni gael y negeseuon yna ar draws iddyn nhw, gobeithio bydd y prif negeseuon gyda nhw am ei hoes," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
Yn ôl Iwan Davies, mae'r cynllun yn "agos iawn" at galonnau'r ddau gan eu bod nhw'n dod o gefndir amaethyddol.
"Mae'r gêm yn llawn posau a heriau gwahanol rhai yn ymwneud gyda rhifau a rhai yn ymwneud â llythrennau, ac maen nhw i gyd yn seiliedig ar drosglwyddo'r neges o ddiogelwch fferm i bobl ifanc.
"Bydd criwiau neu grwpiau o bobl ifanc o bump neu chwech yn cydweithio a gobeithio datrys pob pos unigol a llwyddo i ddianc a helpu Bob i achub y fferm yw'r brif thema.
Mae chwech ohonom ni yn gweithio i gwmni Jengyd a ni gyd yn dod o gefndir amaethyddol felly roedd yn gyfle cyffrous i gydweithio ar brosiect sydd yn agos iawn at ein calonnau ni, a gobeithio bod nhw yn mynd i gael sbort a dysgu rhywbeth am ddiogelwch fferm."
Bu aelodau o Glwb Ffermwyr ifanc Mydroilyn yn arbrofi gyda'r gêm yn ddiweddar. Mae Ela, sydd yn 16 oed, yn dod o gefndir amaethyddol ac mae hi'n dweud bod chwarae'r gêm newydd wedi bod o fudd iddi.
"D'wi'n credu bod fi wedi sylweddoli beth yw gwir oblygiadau ddim gwisgo helmed ar y fferm.
"D'wi'n gwybod o experience bod lot o bobl ar y fferm yn euog o ddim gwisgo helmed ar y cwad. Os ti mewn hast, ti'n gorfod mynd mas i checio defaid ond mae fe yn bwysig gwisgo fe.
"Trwy wneud e trwy gyfrwng gêm, mae'n ffordd hwylus o ddysgu gwir oblygiadau a pheryglon gweithio ar fferm."
Ychwanegodd Ela bod yna beryglon mawr gyda rhai o'r cerbydau ar y fferm.
"Os chi'n carto bêls amser wyna, mae'r crafangau sydd yn mynd ar y tractor yn siarp iawn. Os chi'n cerdded mewn i rheina, fedrwch chi gael gwir ddolur."
'Ystadegau brawychus'
Mae aelod arall, Rhodri Jenkins, sydd yn 19 oed, yn cyfaddef bod rhai ffermwyr ifanc, wedi bod yn "ddi-hid" am ddiogelwch yn y gorffennol.
"Mae'r ystadegau yn frawychus ac mae'n rhaid codi ymwybyddiaeth rywffordd," meddai.
"Bydden ni yn dweud bod agwedd ddi-hid gyda phobl ifanc - mae pobl ifanc yn meddwl bod nhw yn mynd i fyw am byth. Mae nosweithiau fel hyn yn dangos beth allai ddigwydd os ydyn nhw yn ddi-hid."
Yn ôl Sian Tandy, pennaeth cyfathrebu Cyswllt Ffermio, y nod yw newid ymddygiad pobl ifanc ynglŷn â diogelwch
"Roedden ni am fwrw cynulleidfa targed sef arddegwyr, pobl ifanc, sydd yn gweithio neu fyw yng nghefn gwlad neu'n gweithio yn amaethyddiaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd diogelwch ar y fferm.
"Mae'n ymgyrch hollbwysig a ni mo'yn plethu'r negeseuon yma mewn i'w meddyliau yn ifanc fel bod nhw yn creu ymarfer da wrth dyfu ac o fyd gwaith yn y diwydiant amaeth. Mae eisiau plannu'r negeseuon yma yn gynnar er mwyn newid ymddygiad. Cyn neidio ar y cwad, mae angen gwisgo helmed, er enghraifft."
Mae Angharad Evans Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn dweud bod yr Ystafell ddianc mewn bocs yn "bwysig iawn" i ddysgu arfer i'r aelodau ifanc.
"Mae hon yn esiampl berffaith o sut i gyrraedd yr aelodau mewn ffordd hwyliog. Wrth addysgu'r aelodau, ni'n gobeithio bydd llai o ddamweiniau yn digwydd ar y ffermydd a gobeithio bydd yr ystadegau yn lleihau dros gyfnod o amser."