Newyddion S4C

Gwobrau BAFTA Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd fel digwyddiad byw

Golwg 360 07/09/2022
BAFTA Cymru.
BAFTA Cymru.

Fe fydd gwobrau BAFTA Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd yn fyw am y tro cyntaf ers dwy flynedd yn ddiweddarach eleni.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant ar 9 Hydref.

Alex Jones fydd yn cyflwyno ar y noson ac fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi o 21 categori gwahanol.

Mae S4C wedi derbyn 27 enwebiad eleni.

Cafodd y rhestr o enwebiadau ei ryddhau ddydd Mercher, a rhai o'r rhaglenni sydd ar y rhestr yw Deian a Loli, Huw Edwards yn 60, Am Dro!, Iaith ar Daith, Grav, ac Ysgol Ni: Y Moelwyn.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.