Argyfwng costau byw: Merch yn gadael addysg i gadw dau ben llinyn ynghyd
Argyfwng costau byw: Merch yn gadael addysg i gadw dau ben llinyn ynghyd
Mae merch 17 oed wedi gadael byd addysg er mwyn cefnogi ei theulu ac osgoi byw mewn dyledion.
Mae Beca Williams o Ddeiniolen yng Ngwynedd wedi penderfynu peidio cwblhau ei harholiadau Safon Uwch er mwyn gweithio'n llawn amser.
Dywedodd Beca wrth Newyddion S4C: “Dwi ddim yn meddwl bod o yn deg (ar bobl ifanc) bo’ ni wedi gorfod dysgu mai dyma ydy ffordd ni o fyw rŵan.
“Oedd o yn massive part o decision fi de, achos o’n i mor set out ar 'neud yn siŵr bod bob dim yn mynd to plan, nes i ffeindio allan faint o debt fyddai mewn, faint swn i’n gwario ar bob dim, ac yn diwadd oedd o tua £27,000 am 3 mlynedd.
“Fyddai methu talu hwnna nôl efo prisiau fel ma’ nhw.”
Yn ôl Beca fe wnaeth ei athrawon ei hannog i aros ond “oeddan nhw hefyd yn gwbod sefyllfa fi a bo’ fi’n gweithio pan o’n i ddim mewn lessons”.
Bwriad Beca ar un adeg oedd mynd i’r brifysgol i astudio pensaernïaeth, ond erbyn hyn mae’r cynllun wedi newid.
“Ond o’n i rili efo set plan, o’n i yn gwbod yn union be o’n i am neud. O’n i am fynd i neud architecture yn university ond nath y plan newid.”
'Gorbryder'
Mae’r cynnydd mewn costau byw yn achosi gorbryder i Beca, ac mae hi’n poeni y bydd mwy a mwy yn teimlo'r un fath.
“Ma’r teimladau yna i fi am fod yna bob tro. Dwi yn un o’r pobl ‘na sydd yn overthinkio bob dim eniwe.
“Weithia ti jyst yn meddwl am y pres sy’n dod mewn. Dwi mynd mwya’ anxious pam dwi’n gwario pres ar fy hun. Ti’n teimlo fatha ydw’i am gael y pres yna yn ôl?
“Ti hefyd yn goro meddwl am y dyfodol. Dwi wan yn trio prynu car, ti’n trio safio ond ti hefyd ddim yn gallu mewn ffordd a ti ddim yn gwbod be i neud. Di bank balance chdi ddim yn newid a ti’n teimlo wedyn mai chdi sydd yn y wrong.
“Mae o yn gallu leadio at anxiety a depression. Ma’ mental health pan ma’n dod i betha’ fel'ma yn massive de ac mae o yn effectio y pobl rownd y nhw hefyd, achos ma’ pobl isio helpu ond fedra nhw ddim achos ma' nhw yn gorfod edrych ar ôl eu hunain hefyd.
“Mae o yn broblam massive, ond dydy pobl ddim yn siarad am y peth.”
Mae’r cap ar filiau ynni yn codi i £3,549 y flwyddyn ac mae disgwyl i 24 miliwn o dai ar hyd Prydain gael eu heffeithio wrth i'r codiad ddod i rym ar 1 Hydref.
Mae Beca erbyn hyn yn gweithio fel cogydd ac yn brentis mewn dau fwyty gwahanol ond mae’r prisiau cynyddol yn parhau i’w phoeni.
“Fwy na dim dwi yn poeni am brisiau petrol, biliau tŷ, heina da ni yn gwario fwyaf ar adra.
“Mae o yn anodd, fedrai weld bod mam yn stryglo ond neith hi ddim dangos i fi, dwi gwbod bod hi a ma’ lot o bobl erill hefyd.”