Miloedd o bobl yn siwio cwmni 'powdr talc' yn sgil risgiau canser
Mae hawliad cyfreithiol sylweddol wedi'i gyflwyno 0 flaen yr Uchel Lys yn y DU, a hynny yn erbyn y cwmni fferyllol rhyngwladol Johnson & Johnson, gyda'r cwmni yn wynebu cyhuddiadau o werthu powdr babanod, a oedd yn ôl yr achwynwyr yn cynnwys asbestos yn fwriadol.
Mae'r hawliad yn ymwneud â 3,000 o bobl sydd wedi cael gafael ar ddogfennau mewnol y cwmni, yn ogystal ag adroddiadau gwyddonol arbenigol.
Mae'r rhai sy'n dwyn yr achos yn honni bod Johnson & Johnson (J&J) yn ymwybodol mor bell yn ôl â'r 1960au fod eu powdr talc wedi'i seilio ar fwynau yn cynnwys ffurfiau ffibrog o dalc, yn ogystal â sylweddau thremolit ac actinolit.
Mae'r ddau sylwedd yma - yn eu ffurf ffibrog - wedi'u clustnodi fel asbestos, ac mae deunydd asbestos yn gysylltiedig â chanserau a allai fod yn angheuol i bobl.
Mae dogfennau'r llys yn honni, er gwaethaf i J&J wybod bod mwynau sy'n gysylltiedig â chanserau yn bresennol, ni wnaeth y cwmni gyhoeddi unrhyw rybuddion ar eu pecynnu o bowdr babanod.
I'r gwrthwyneb, roedd ymgyrchoedd marchnata'r cwmni yn portreadu'r powdr fel symbol o burdeb a diogelwch, yn ôl yr achos cyfreithiol.
Mae J&J yn gwadu'r honiad yn llwyr, yn ogystal ag unrhyw honiadau eu bod wedi gwerthu powdr babanod yn cynnwyg asbestosyn fwriadol.
Dywedodd datganiad, a gyhoeddwyd ar ran y cwmni, fod eu powdr babanod "yn cydymffurfio ag unrhyw safonau rheoleiddio gofynnol, nad oedd yn cynnwys asbestos, ac nad oedd yn achosi canser".
Fe ddaeth yr arfer o werthu powdr babanod sy'n cynnwys talc i ben yn y DU yn 2023.
Mae'r achos presennol yn y DU yn adlewyrchu sefyllfa debyg sydd wedi codi yn America, lle gafodd nifer o achosion cyfreithiol eu cyflwyno, gydag unigolion wedi cllwyddo i dderbyn biliynau o ddoleri mewn iawndal.