Y Prif Weinidog: Nigel Farage â 'chwestiynau i'w hateb' am Nathan Gill

Llun: PA
Nathan Gill / Nigel Farage

Mae gan Nigel Farage "gwestiynau i'w hateb" ynglŷn â chyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru ar ôl i hwnnw bledio'n euog i wyth cyhuddiad yn ymwneud â llwgrwobrwyo, meddai Syr Keir Starmer.

Dywedodd y Prif Weinidog bod angen i Farage egluro'r hyn roedd Reform yn ei wybod am Nathan Gill, cyn-arweinydd y blaid yng Nghymru yn 2021.

Fis diwethaf fe gyfaddefodd Nathan Gill, 52, o Ynys Môn, i wyth cyhuddiad yn ymwneud â llwgrwobrwyo rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.

Honnir iddo wneud datganiadau yn Senedd Ewrop, mewn erthyglau barn ac ar wasanaethau newyddion, fel 112 Ukraine, a oedd yn “gefnogol i naratif penodol” a fyddai “er budd i Rwsia ynghylch digwyddiadau yn Wcráin”.

Clywodd y llys fod Oleg Voloshyn o Wcráin wedi gofyn i Nathan Gill wneud datganiadau penodol ar o leiaf wyth achlysur yn gyfnewid am arian.

Gwadodd Gill un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llwgrwobrwyo yn ystod gwrandawiad yn yr Old Bailey.

Wrth siarad yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd Starmer bod "cwestiynau difrifol" oedd angen eu hateb gan Farage a'i blaid.

"Roedd (Mr Farage) a'i ddirprwy yn gweithio ochr yn ochr â rhywun oedd yn derbyn arian i ledaenu propaganda Putin," meddai.

"Beth bynnag maen nhw'n gwadu, mae ganddyn nhw gwestiynau difrifol i'w ateb am yr hyn roedden nhw’n ei wybod."

'Arswydo'

Wrth ymweld ag etholaeth Caerffili ddydd Gwener cyn isetholiad yno mewn ychydig dros wythnos, dywedodd Nigel Farage ei fod wedi ei “arswydo” o glywed am gyfaddefiadau Nathan Gill.

“Gall unrhyw blaid wleidyddol ddod o hyd i bob math o bobl ofnadwy yn eu mysg,” meddai.

“Mae achos Gill yn arbennig o syfrdanol oherwydd roeddwn i'n ei adnabod fel Cristion duwiol, person oedd yn byw bywyd dilychwin a gonest.

“Felly, rydw i wedi fy synnu'n fawr. Ond wyddoch chi, roedd o’n gyfnod gwahanol.

“Fi yw'r unig un [yn Reform] oedd yn ei adnabod mewn gwirionedd, yn mynd yn ôl yn bell.”

Ychwanegodd Nigel Farage: “Mae gan bob plaid wleidyddol afal drwg; mewn gwirionedd, mae llawer o deuluoedd yn gorffen gydag afal drwg. Mae'r pethau hyn yn digwydd.

“Nid yw'n lleihau difrifoldeb y peth… ond mae yn y gorffennol.

“Ni allwch chi byth, byth warantu 100% bod pawb rydych chi'n cwrdd â nhw yn eich bywyd, rydych chi'n ysgwyd llaw â nhw yn y dafarn, yn berson da.

“Yr hyn allwch chi ei wneud yw, wyddoch chi, gwneud popeth o fewn eich gallu trwy wirio a phopeth arall, i wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi pobl safonol, weddus gerbron y cyhoedd, ac mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i’w wneud.”

Daw hyn wrth i’r is-etholiad yng Nghaerffili nesáu, gyda’r diwrnod pleidleisio ar 23 Hydref. 

Yr ymgeiswyr a gadarnhawyd yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.