Economi'r DU wedi tyfu 0.1% yn ystod mis Awst

Banc / Twll yn y wal / Economi / Arian

Mae economi'r DU wedi tyfu ychydig yn ystod mis Awst eleni, yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf i gael eu cyhoeddi.

Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae'r economi wedi cynyddu 0.1%, a hynny ar ôl crebachu 0.1% yn ystod mis Gorffennaf.

Mae'r llywodraeth yn mynnu fod "hybu'r economi" yn flaenoriaeth allweddol iddynt, wrth i bwysau gynyddu cyn y gyllideb y mis nesaf.

Mae llawer o economegwyr wedi bod yn rhybuddio y bydd angen codiadau treth neu doriadau gwariant i fodloni rheolau benthyca'r canghellor.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn rhagweld y bydd angen i'r Canghellor, Rachel Reeves ddod o hyd i £22bn i wneud yn iawn am ddiffyg yng nghyllid y llywodraeth, a bydd "bron yn sicr" yn gorfod codi trethi.

Ddydd Mercher, dywedodd Reeves ei bod yn "edrych ar fesurau pellach ar drethi a gwariant, i wneud yn siŵr bod cyllid cyhoeddus bob amser yn cyd-bwyso".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.