Guto Harri: 'Pawb angen i Liz Truss lwyddo'
Mae cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson, Guto Harri, wedi dweud bod "pawb angen i Liz Truss lwyddo."
Mae Liz Truss wedi cael ei phenodi yn swyddogol yn Brif Weinidog y DU ddydd Mawrth wedi i gyfnod Boris Johnson fel prif weinidog ddod i ben yn swyddogol.
Mewn neges ar LinkedIn, dywedodd Mr Harri, wrth gyfeirio at Boris Johnson, ei fod wedi gweld "Prif Weinidog eithriadol yn gweithio yn ofnadwy o galed."
Ychwanegodd bod ei gyfnod gwleidyddol wedi bod yn "ddiddiwedd, blinedig ac yn her fawr o ran deallusrwydd, yn emosiynol a hyd yn oed yn gorfforol.
"Ar brydiau, yn benodol pan roedd y Blaid Geidwadol yn gwneud niwed i'w hun, roedd yn ofnadwy o anodd."
Gorffenodd drwy ddymuno yn dda i Liz Truss gan ddatgan ei bod hi'n "ymwybodol o'r heriau mawr sydd i ddod, felly mae pawb angen iddi lwyddo."