Newyddion S4C

Dyn dan amheuaeth o ladd 10 o bobl yng Nghanada wedi'i ddarganfod yn farw

06/09/2022
Damien Sanderson

Mae dyn sydd dan amheuaeth o ladd 10 o bobl mewn ymosodiad yng Nghanada wedi'i ddarganfod yn farw, medd yr heddlu. 

Cafodd 19 o bobl hefyd eu hanafu yn ystod yr ymosodiad yn nhalaith Sasketchewan fore dydd Sul. 

Dyma un o'r gweithredoedd mwyaf marwol o drais torfol a welodd Canada erioed.

Cafodd corff Damien Sanderson ei ddarganfod gydag anafiadau amlwg yn ardal frodorol y James Smith Cree Nation fore dydd Llun. Yn ôl yr heddlu, ni wnaeth Mr Sanderson achosi'r anafiadau i'w hun. 

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am frawd Mr Sanderson, Myles, mewn cysylltiad â'r ymosodiad. 

Maent wedi rhybuddio'r cyhoedd bod hi'n bosib bod gan Myles Sanderson arfau yn ei feddiant ac yn beryglus. 

Mae trigolion wedi cael gwybod bod angen iddynt aros mewn lle diogel ac mae rhybudd person peryglus wedi cael ei anfon i bob ffôn symudol ar draws taleithiau Saskatchewan, Manitoba ac Alberta. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.