Prif weinidog nesaf y DU: Y farn o Ewrop
Prif weinidog nesaf y DU: Y farn o Ewrop
Gyda Liz Truss wedi ei dewis yn Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, mae ei phenodiad hefyd yn ganolog i bapurau Ewrop ac yn rhyngwladol.
Yn dilyn misoedd o ymgyrchu, daeth cadarnhad ddydd Llun bod Ms Truss wedi derbyn 81,326 o bleidleisiau, tra gwnaeth ei gwrthwynebydd, y cyn-Ganghellor Rishi Sunak, dderbyn 60,399.
Mae papur newydd El País yn Sbaen yn dweud bod llawer o Geidwadwyr "heb faddau i Mr Sunak" am fradychu Llywodraeth Boris Johnson. Er nad oes unrhyw un yn amau ei allu, "mae llawer wedi eu hudo" gan addewidion Ms Truss a'i "gallu i addo dyfodol disglair, heb egluro yn union sut y mae gwneud hynny meddai'r papur.
"Y pedwerydd arweinydd Ceidwadol mewn ychydig mwy na degawd, mae hi wedi gweld economi'r wlad yn arafu a Brexit yn gwenwyno'r wlad ac yn dibrisio ei photensial masnachol."
'Y Ddynes Ddur nesaf?'
Mae papur newydd Le Figaro yn Ffrainc yn cwestiynu ai Liz Truss fydd "y Ddynes Ddur nesaf yn Downing Street", gan gyfeirio at y tebygrwydd rhwng y prif weinidog newydd a Margaret Thatcher.
Mae'r papur hefyd yn dweud bod Ms Truss bellach yn "gefnogwraig bybyr o Brexit, gan ddefnyddio tôn ffyrnig yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd yn aml.
"Mae hi hyd yn oed yn cael ei gweld fel pensaer y ddeddfwriaeth i ddiystyru cytundeb Llundain gyda Brwsel ynghylch Gogledd Iwerddon, gan beryglu rhyfel fasnach ag Ewropeaidd."
'Ewrop wedi bod yn ofalus yn croesawu Truss'
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, Mared Gwyn, bod "Liz Truss yn cael ei hadnabod yn Ewrop, ac yn enwedig ym Mrwsel, fel rhywun sydd wedi bod yn eithaf dadleuol ei barn yn arbennig ynghylch Brexit a'r protocol ar Iwerddon, felly ma' nhw 'di bod yn ofalus yn croesawu Liz Truss i'r rôl.
"Yn amlwg, ma' nhw'n benderfynol o gydweithio'n agos hefo Truss ag hefo'r prif weinidog newydd oherwydd materion rhyngwladol pwysig fel y crisis ynni, y rhyfel yn Wcráin, a newid hinsawdd hefyd.
"Ma' nhw'n edrych ymlaen i weld sut fedran nhw newid y berthynas a chydweithio yn agosach ond hefyd yn ofalus o wybod sut un ydy Truss."
Yn ystod ei hymgyrch, gwnaeth Ms Truss sylwadau am Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, gan osgoi dweud a oedd yn "ffrind neu elyn" ac y byddai hi'n "ei feirniadu ar ei weithredoedd yn hytrach na'i eiriau."
Yn sgil sylwadau'r prif weinidog newydd, mae Mared Gwyn yn credu "bod arweinwyr Ewrop yn ymwybodol ei bod hi'n siarad drwy gydol yr ymgyrch hefo ei phleidleiswyr hi yn y blaid Geidwadol sydd yn wrth-Ewropeaidd felly o'dd profocio Macron yn debyg o blesio'r bobl oedd yn pleidleisio drosti hi."
Er nad ydy'r DU yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar filiynau o bobl ar y cyfandir. Yn ôl Mared Gwyn, mae cydweithio yn hanfodol er mwyn ceisio dod o hyd i ddatrysiad.
"Ma' 'na gwestiyna mawr am Ewrop, am y crisis ynni a chostau byw, sydd ddim yn rwbath sy'n unigryw i'r Deyrnas Unedig a ma'r datrysiada' yn betha' o bosib y bydd modd eu canfod ar y cyfandir ac yn cydweithio hefyd efo partneriaid rhyngwladol.
"Ma'n rhaid i Truss gamu allan o'r proffil 'ma sydd ganddi fel y ddynes o blaid Brexit, ac fel prif weinidog, mi fydd gofyn iddi fod yn arweinydd cadarn ond hefyd un sy'n fodlon cydweithredu'n rhyngwladol."