Gareth Thomas heb ddweud wrth gyn-gymar fod ganddo HIV

Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru a'r Llewod, Gareth Thomas, wedi cyfaddef iddo beidio â dweud wrth gyn-gymar fod ganddo HIV.
Mae Ian Baum yn honni fod Gareth Thomas wedi celu'r wybodaeth, a'i fod o wedi methu a chymryd digon o ofal i wneud yn siwr nad oedd o'n trosglwyddo'r haint.
Mae Mr Baum yn ceisio hawlio iawndal gwerth £150,000 gan Mr Thomas.
Roedd y ddau mewn perthynas rhwng 2013 a 2016.
Yn ôl papurau'r Uchel Lys, mae Mr Thomas yn dweud ei fod yn ymwybodol bod ganddo HIV ar y pryd.
Dywedodd Mr Thomas nad oedd ei bartner wedi gofyn iddo os oedd ganddo HIV.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans