Rhybudd melyn am stormydd i Gymru
Mae rhybudd melyn am stormydd i rannau helaeth o orllewin a de Cymru ar gyfer nos Sul.
Mae’r rhybudd yn dod i rym am 20.00 nos Sul a bydd yn parhau tan 04.00 fore dydd Llun.
Fe allai amodau gyrru gael eu heffeithio gan ddŵr yn sefyll, gwyntoedd cryfion a chenllysg ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i ddisgwyl teithiau hirach.
Fe allai rhai tai a busnesau ddioddef llifogydd sydyn gyda difrod i adeiladau gan felt neu wyntoedd cryfion.
Mae yna bosibilrwydd o darfu ar gyflenwadau pŵer hefyd yn ogystal ag oedi ar gyfer gwasanaethau trên neu fws.
Mae disgwyl i 20mm-30mm o law ddisgyn mewn awr mewn mannau.
Yellow warning of thunderstorm affecting Wales https://t.co/ERQVMNtt9w pic.twitter.com/5G4ogDG6VR
— Met Office - Wales (@metofficeWales) September 4, 2022