Olivia Pratt-Korbel: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio
Mae dyn 34 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio mewn cyswllt â marwolaeth Olivia Pratt-Korbel oedd yn naw oed.
Dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod y dyn yn y ddalfa ac yn cael ei holi gan swyddogion.
Mae dyn 41 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr ac mae e hefyd yn y ddalfa.
Cafodd y ddau eu harestio yn ardal Runcorn fore dydd Sul.
Dywedodd yr heddlu prynhawn Sul eu bod nhw hefyd wedi arestio dyn 29 oed ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr ac mae e yn y ddalfa.
Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei chartref wedi i ddyn redeg i mewn drwy'r drws tra'n rhedeg ar ôl dyn arall ar 22 Awst.
Cafodd mam Olivia, Cheryl Korbel, a dyn arall eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu; “Ry ni’n dal i ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth fydd yn gallu helpu ein hymchwiliad i lofruddiaeth drasig Olivia i gysylltu er mwyn i ni ddod a'r sawl sy’n gyfrifol i gyfiawnder."