Newyddion S4C

Bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr yn streicio dros gyflogau

05/09/2022
S4C

Mae bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr yn streicio ddydd Llun, oherwydd eu bod yn anfodlon â'u tâl.

Bydd y gweithredu diwydiannol yn parhau am "gyfnod amhendant."

Pleidleisiodd 79% o aelodau Cymdeithas y Bar Cyfreithiol ym mis Awst o blaid streicio.

Dywedodd y gymdeithas bod eu gweithwyr wedi derbyn lleihad o 28% ar gyfartaledd yn eu tâl ers 2006. 

Mae'r gymdeithas eisiau i fargyfreithwyr gael codiad cyflog o 15%.

Mae bargyfreithwyr troseddol profiadol yn ennill rhwng tua £55,900 i £63,900 y flwyddyn ar ôl costau. Ond £12,800 yw'r cyflog cychwynnol. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Bar Cyfreithiol, Kirsty Brimelow, fod y streic yn “weithred dewis olaf” a bod y galw am fwy o arian "yn costio llai na’r gost i’r Llywodraeth i gadw’r llysoedd yn wag."

Ychwanegodd fod 60,000 o achosion yn dal i aros i gael eu clywed.

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder y DU Sarah Dines: “Mae hyn yn benderfyniad anghyfrifol fydd yn gweld dioddefwyr yn wynebu oedi a thrallod ychwanegol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.