Stephen Crabb: 'Nid dyma’r diwethaf am Boris’
Mae aelod seneddol Ceidwladol o Gymru wedi dweud nad yw’n credu “ein bod wedi clywed y diwethaf am Boris Johnson."
Daw sylwadau Stephen Crabb, aelod seneddol Preseli Penfro, ddiwrnod cyn i Boris Johnson drosglwyddo arweinyddiaeth y blaid Geidwadol a’r brif weinidogaeth.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ddydd Sul dywedodd Mr Crabb, sy'n gyn Ysgrifennydd Cymru, fod Mr Johnson yn “unigolyn a gwleidydd hynod” a’i fod wedi ei “brofi’n anghywir” ar sawl achlysur.
Roedd Mr Crabb, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn San Steffan, wedi pleidleisio yn erbyn Mr Johnson yn y bleidlais hyder ym mis Mehefin gan alw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo “er lles y wlad.”
Ychwanegodd Mr Crabb ddydd Sul fod Mr Johnson wedi arwain ei blaid “i’r fuddugoliaeth fwyaf mewn etholiad cyffredinol mewn 30 mlynedd.”
Dywedodd fod gan Liz Truss a Rishy Sunak fwy “sy’n uno nag sy’n eu gwahanu” a bod angen i’r blaid Geidwadol feddwl am baratoi am yr etholiad cyffredinol nesaf yn barod.